Mae Caerdydd AM BYTH yn falch o hyrwyddo Mannau Diogel a byddwn yn cynnig cefnogaeth a hyfforddiant. Rydym yn gofyn am ymrwymiad i’r cynllun ac yn cydnabod bod eich cynnwys yn y cynllun yn arddangos ac yn meithrin mwy o gyfle cynnwys cymunedol i’ch busnes.
Mae’r syniad yn syml iawn: mae busnesau a sefydliadau yn cofrestru i fod yn Fan Diogel. Ar ôl hyfforddi staff allweddol, rhoddir sticer Mannau Diogel dewisol iddynt y gallant ei arddangos yn eu ffenestr a chofnodir eu cofrestriad ar wefan ein cynllun lleol a’n ap defnyddwyr.